Page images
PDF
EPUB

him to think that there still existed a nation which was full of patriotism. He ridiculed the conclusion arrived at by some classes that the Welsh nation and its language were rapidly declining. What he advised them to do was to make the best out of their language in its connection with the Eisteddfod. He thought this Eisteddfod of theirs was a most entertaining festival. There were two sides, of course, to the Eisteddfod. The one was the recreative side, and the other the educational side. The recreative side was very well carried out, and he had thoroughly enjoyed it on that and the previous day. Every nation had its own way of amusing its people. The Greeks had their Olympian games, and he was tempted to think they must have been very much like the Eisteddfod. The English also had their games. Having entertained the audience by reading an account of the manner in which a section of the population of London enjoyed themselves on Bank Holiday, the President said he was very glad that the hardworking people of London had thus enjoyed themselves by witnessing the performances of clowns, and others; but would anyone say that this was a more rational amusement than the amusement afforded in the Eisteddfod? Looking at the educational aspect of the question, he ventured to suggest the advisability, as was referred to on the previous day, of connecting it with the educational system of the country, by offering prizes in the elementary schools. This, no doubt, would produce very good results. There was one thing which he thought ought to be, and could be done. It was his great privilege to attend a meeting of the Cymmrodorion Society, when a lecture was delivered by Mr. Gladstone-whom he was sure all there respected-it was his privilege, he said, to listen to a lecture by him on the history of pottery in Wales. Mr. Gladstone had described to them a particular manufacture of pottery called "Swansea Pottery", which was some years ago in great favour, but had now become quite extinct. The

most curious thing was, that the Swansea plates were bought in London for ten guineas. He asked why this art had been allowed to decay? It would be a very fair question for the promoters of their Eisteddfodau to appoint a committee, or something of the sort, to try and find out whether there were in Wales the possibilities of reviving this neglected art. He advocated the affiliation to the Eisteddfod of a Social Science Department, and expressed his belief that, if this were done, a greater future would await that institution. In concluding, he again begged to thank all for the exceedingly kind reception accorded him, and for the honour conferred upon him by inviting him to preside that day; and if they asked him to come at any future time, he would come again (loud and prolonged cheers).

It was to-day that Professor Rhys of Oxford delivered an address full of practical good sense, commingled with keen criticism on many Eisteddfodic proceedings. Severe as some of his strictures were, the audience, as well as the persons against whom his fulminations were hurled, received them with becoming approval. Mr. Rhŷs spoke with fervour and eloquence.

[ocr errors]

'Mr. Llywydd, Boneddigesau, a Boneddigion,-Y mae wedi bod yn beth lled gyffredin i ddyn wrth gyfodi i anerch y Cymry mewn Eisteddfod ymgymeryd â seboni ei wrandawyr a gwneuthur a allo i feddalu eu penau a'u gyru i feddwi o hunanfoddhad. Yn ol pob ymddangosiad, barn y cyfryw ydyw mai gwirioniaid ydym, ac mai gwastraff amser fyddai ymresymu â ni fel pobl yn eu hiawn bwyll; a gellid meddwl mai eu harwyddair ydyw geiriau y Saeson ar y dydd cyntaf o Ebrill : Send the fool further.' Yr wyf fi yn benderfynol o'r farn mai anmharch ar y Cymry yw hyn, ac nid wyf yn teimlo unrhyw rwymau arnaf i osgoi llwybrau pwyll a synywr cyffredin wrth ymdrechu eich anerch. Dygwyddodd i mi ychyd

ig amser yn ol gyfarfod un o brif haneswyr a beirniaid y Saeson, a thrôdd yr ymddiddan ar y Cymry a'r Eisteddfod, pan ofynodd i mi paham yr oeddwn mor ffol a gwastraffu amser i fyned i Eisteddfod, a pha ddiben oedd i mi ddyfod o flaen pobl na wrandawent ar ddim ond canmoliaeth wag iddynt eu hunain. Felly cefais gyfle i'w argyhoeddi fod y bobl gyffredin yn Nghymru yn llawer mwy deallgar a hoff o lenyddiaeth na'r un dosbarth o Saeson; ac mai bai y gaubrophwydi sydd yn ein plith ydyw fod llif-ddyfroedd gweniaith a ffolineb yn ymdywallt ambell dro oddiar lwyfan yr Eisteddfod; ond, ar y llaw arall, fod pob gwrandawiad mewn Eisteddfod i bob un sydd yn amcanu gwneuthur lles i'w wrandawyr, hyd y nod pe na byddai ei eiriau yn felus a hyfryd iddynt ar y pryd ai peidio. A phaham,' meddwn, ‘y soniwch am ffolineb Eisteddfodol: nid oes amser maith er pan ddygwyddodd i mi fod yn bresenol mewn cyfarfod a gynhelid yn mhentref prydferth Llangollen gan gymdeithas henafiaethol o Lundain oedd wedi dyfod i lawr i lewyrchu yn nhywyllwch Cymru, ac ar air a chydwybod nid wyf yn meddwl ddarfod i neb o archynfydion yr Orsedd Eisteddfodol lefaru nac ysgrifenu dim yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf a ddaliai ei gymharu o ran ffolineb âg un o'r traethodau a wrandawyd yn astud gan y gymdeithas ddoeth a dysgedig hono. Bernwch drosoch eich hunan,' meddwn, gan fy mod yn dygwydd gwybod fod y chwine Sais-Iuddewig sydd yn ymledaenu yn Lloegr yn poeni ei ysbryd er's blynyddau— 'bernwch drosoch eich hunan: y testun ydoedd tarddiad cenedl y Cymry o offeiriaid eilunaddolgar y brenhin Omri, un o olynwyr Jereboam fab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.' 'Rhaid', eb efe, fod Cymry glanau y Dyfrdwy yn ddynion gwahanol iawn i Owain Glyndwr a'i gydoeswyr i fedru ymatal rhag llabyddio â meini y fath nythed o loerigion haner Iuddewig'.

"Ond nid dyna ddiwedd yr ymddiddan, canys aethum yn

mlaen i ddangos iddo fod yr Eisteddfod yn rhan o hanes y Cymry, ac yn dal perthynas agos âg addysg lenyddol y genedl : a dyna y pynciau y carwn siarad ychydig am danynt wrthych ar hyn o bryd. Un o brif nodweddion yr oes neu y ganrif hon ydyw, mai ynddi y darganfyddwyd neu y gosodwyd seiliau amryw o'r gwyddonau mwyaf pwysig a blodeuog, yn enwedig y rhai cymhariaethol sydd yn ymwneyd â hanes yr hil ddynol, neu ryw ganghenau o'i hanes, megys ieithyddiaeth gymhariaethol, a'r dull cymhariaethol o efrydu chwedloniaeth, deddfau, ac arferion gwahanol genhedloedd. O'r rhai hyn, y bwysicaf â'r flaenaf ar y maes ydyw ieithyddiaeth gymhariaethol, ac un o brif gasgliadau ieithyddwyr yr oes ydyw y ffaith fawr a gydnabyddir gan holl ddysgedigion y byd fel y cyfryw, y gellir, y tu yma yn mhell o ran amser i ddechreuad yr hil ddynol olrhain gwahanol genhedloedd y byd i nifer bychan, mewn cymhariaeth, o darddiadau neu gyffiau. Un o'r rhai hyn yw y cyff Semitaidd, i'r hwn y perthyn yr Iuddewon a'r Arabiaid. Un arall yw y cyff Ariaidd, neu Ind-Ewropaidd, i'r hwn yr ydym ni yn perthyn: y cenhedloedd sydd yn perthyn agosaf i ni ydyw y Llydawiaid, y Gwyddelod, a Gaeliaid Ucheldiroedd yr Alban-perthynasau go dlodion, fel y gwelwch ydyw y rhai hyn, ac o ganlyniadd bydd ar rai gywilydd eu harddel. Ond y mae genym ni berthynasau eraill sydd yn well arnynt yn y byd, canys brodyr i ni o'r un cyff Ind-Ewropaidd ydyw y Saeson, er nad mynych y crybwyllir hyny mewn Eisteddfod, gan mai arfer rhai ydyw cymeryd arnynt mai gelynion i ni yw y Saeson, yr hyn sydd wedi rhoddi achlysur i'n cydgenedl y tu arall i Glawdd Offa i ddychymygu mai lle ydyw yr Eisteddfod i feithrin bradwriaeth ac anfoddogrwydd. Brodyr i ni hefyd ydyw prif genhedloedd y Cyfandir, megys y Ffrancod, yr Italiaid, y Groegiaid, a'r Sclafoniaid; ac y mae i ni frodyr yn y Dwyrain, sef yr Armeniaid, y Persiaid, a'r llwythau mwyaf gwareiddiedig o'r Hind waid.

"Ar ol i ieithyddwyr brofi mai i'r un cyff cyntefig y perthyn y cenhedloedd a enwais, a bod eu hieithoedd, er gwaethaf eu holl amrywiaeth, yn dwyn olion diymwad o'u tarddiad cyffredin, awd yn mlaen i chwilio am olion cyffelyb yn eu chwedlau, eu harferion, a'u deddfau, a buwyd mor llwyddiannus yn y cyfeiriad hwn fel y gellir erbyn hyn ddywedyd fod y fath ganghenau o wybodaeth yn bodoli a chwedloniaeth gymhariaethol a deddfyddiaeth neu arferiaeth gymhariaethol. Ceir, er engraifft, fod yr un elfenau yn treiddio drwy chwedlau a chwedloniaethau y cenhedloedd Ind-Ewropaidd o ddyfroedd y Ganges hyd lynoedd yr Iwerddon. Yn yr un modd ceir fod yr un pethau yn nodweddu deddfau ac arferion cymdeithasol yr hen Gymry, y Gwyddelod, y Saeson, y Sclafoniaid, ac eraill o'r un cŷff, a bod hyn i'w olrhain i'r un ffynhonell batriarchaidd yn y cynfyd pell.

yr

"Ond heb fyned i fanylu ar y pynciau yna, deuaf i lawr at

hen Gymry o fewn y cyfnod hanesyddol: gellir dywedyd am danynt y byddai eu llysoedd yn cyfarfod, nid yn unig i gospi troseddwyr, neu i benderfynu materion arianol, ond y byddai eu tywysogion yn arferol hefyd, o bryd i bryd, o gynal math o sesiwn, ar ol rhybudd digonol, i benderfynu pwy oedd yn addas i'w hystyried yn addysgwyr y genedl yn y gwahanol ganghenau o wybodaeth oedd mewn bri yn eu plith: yr enw wrth ba un yr adwaenom y sefydliad hwn ydyw yr Eisteddfod. Gyda golwg ar gyfansoddiad y llys trwyddedol hwn, yr oedd ei gyfansoddiad yn bur syml: y tywysog oedd â hawl ganddo i'w alw yn nghyd neu i gyhoeddi Eisteddfod, oedd y pen, ond cai ei gynorthwyo gan bersonau cymwys a phrofedig yn y gwahanol bethau yr ymorchestid ynddynt. Nid wyf fi, wrth hyny, am awgrymu y dylasai pobl y Borth yma aros a disgwyl heb Eisteddfod nes y buasai i Ardalydd Mon weled yn dda gyhoeddi un a llywyddu ynddi. Y mae yr Eisteddfod, fel pob sefydliad arall er gwell neu er gwaeth, wedi ymwerinoli yn ddirfawr er yr amseroedd niwliog a eilw anfoddogion yr

« PreviousContinue »